Croeso i wefan ffilm a theledu Pictiwrs.com
Anfonwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar 19 Mawrth, 2006 - 18:19Croeso i www.pictiwrs.com ar ei newydd wedd. Wedi tua dwy flynedd ar ffurf blog ar y cyd i griw bach o adolygwyr a chyfrannwyr penderfynwyd ei agor fyny i bwy bynnag sydd eisiau cyfrannu gyda'r amcan o greu cymuned Gymraeg ar-lein i drafod ffilm a theledu.
Cyfle i gael eich ffilm fer ar ail DVD Pictiwrs / Tu Chwith
Anfonwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar 13 Gorffennaf, 2009 - 16:12 Ffilm | Pictiwrs yn y PybCyfle i gael eich ffilm fer chi o flaen llygaid Cymru!
Creu Ffilm Gymraeg ar gyfer Pictiwrs / Tu Chwith
Mae Pictiwrs / Tu Chwith yn chwilio am ffilmiau byr, annibynnol, Cymraeg i’w dangos ar daith hyd a lled Cymru yn yr Hydref ac i'w cynnwys ar DVD a gyhoeddir gan gylchgrawn Tu Chwith ym mis Ionawr 2010.
Ffilm Ryan a Ronnie ar daith Mawrth-Mai 2009
Anfonwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar 2 Mawrth, 2009 - 22:19 FfilmHunger
Anfonwyd gan Jules ar 25 Ionawr, 2009 - 09:596.2.08 Pictiwrs Paradiso - The Maltese Falcon - Aberystwyth
Anfonwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar 16 Ionawr, 2008 - 12:07 Ffilm | Pictiwrs yn y Pyb
Cyfle i neidio nôl mewn amser i'r 40au!
Mae noson ffilm Pictiwrs Paradiso yn dychwelyd gyda digwyddiad ffilm bendigedig arall i chi. Ar nos Fercher, 6ed Chwefror byddwn ni'n cynnal dangosiad o The Maltese Falcon, y ffilm dditectif noir hyfryd honno gyda Humphrey Bogart, yn amgylchedd atmosfferig Amgueddfa Ceredigion - hen sinema'r Coliseum!
29.01.08 Noson ffilmiau byrion Undercurrents, Abertawe
Anfonwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar 14 Ionawr, 2008 - 17:20 Ffilm | Gwyliau ffilm
Poster bendigedig. Werth mynd draw am squizz (gawd, heb ddefnyddio'r gair yna ers ysgol!).
19.01.08 Pictiwrs Yn Y Pyb - Tŷ Tawe
Anfonwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar 14 Ionawr, 2008 - 17:14 Ffilm | Pictiwrs yn y Pyb
Bydd Pictiwrs yn cynnal noson ffilmiau yn Abertawe nos Sadwrn yma. Dewch yn llu i weld y gorau o ffilmiau byrion Cymraeg.
5.12.07 Pictiwrs Paradiso - The Wicker Man - Druid Inn, Goginan
Anfonwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar 27 Tachwedd, 2007 - 22:40 Ffilm
Mae noson gyntaf tymor newydd Pictiwrs Paradiso yn ail gychwyn fis nesaf gyda'r clasur arswydus, one-off, bisâr, paganaidd, Albanaidd, naci-dim-pen-ôl-go-iawn-Britt-Eklund-ydi-hwnna - The Wicker Man.
Y Dyn Nath Ddwyn y 'Dolig - Y Drwm, Aberystwyth - 04.12.07
Anfonwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar 26 Tachwedd, 2007 - 19:59 Ffilm
Cyfle euraid i weld y clasur Nadoligaidd Y Dyn nath ddwyn y Dolig o gasgliad ffilmiau cynnar S4C. Ffilm gerddoriaeth o 1985 gan Caryl Parry Jones a Hywel Gwynfryn. Werth ei weld os jest am y gwalltiau a'r gwisgoedd!
Fel Arall: Dogfen Nia Dryhurst ar S4C
Anfonwyd gan Mair Thomas ar 19 Tachwedd, 2007 - 13:05'Mond eisiau eich atgoffa y bydd ffilm ddogfen Nia Dryhurst, Fel Arall yn cael ei ddangos ar S4C nos Fawrth yma am 9pm. Cafodd y ddogfen gryn sylw yn ystod Yr Wyl Ffilm Hoyw a Lesbaidd eleni, ac mae'r manylion ar wefan y rhaglen yn argoeli ffilm sensitif a dadlennol.



Sylwadau diweddar
1 day 5 hours yn ôl
5 days 14 hours yn ôl
12 weeks 6 days yn ôl
42 weeks 3 days yn ôl
2 years 4 weeks yn ôl
2 years 4 weeks yn ôl
2 years 12 weeks yn ôl
2 years 15 weeks yn ôl
2 years 16 weeks yn ôl
2 years 19 weeks yn ôl